2018 Rhif (Cy. )

TIROEDD COMIN, Cymru

Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Caniateir i dir gael ei gofrestru fel maes tref neu bentref o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”). Un o nodweddion pob un o’r amgylchiadau hynny yw bod rhaid bod nifer sylweddol o drigolion unrhyw ardal leol, neu unrhyw gymdogaeth o fewn ardal leol, wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon ‘drwy hawl’ ar y tir o dan sylw am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf.

Mae adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o’r fath adneuo datganiad gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hyn yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef. Rhaid i fap fynd gyda’r datganiad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adneuo datganiadau o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 a materion cysylltiedig.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi ffurf y datganiad y caniateir ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin a ffurf y map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad.

Mae rheoliad 4 yn galluogi’r awdurdod cofrestru tiroedd comin i ragnodi ffi resymol mewn perthynas ag adneuo datganiad.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â phryd y mae datganiad i’w drin fel pe bai wedi ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin.

Mae rheoliad 6 yn gwneuddarpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin reoli’r broses o adneuo datganiad, a rhoi cyhoeddusrwydd iddi.

Mae rheoliad 7 yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â gwybodaeth benodol y mae’n rhaid ei chynnwys yn y gofrestr sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin gadw’r gofrestr honno sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006, gan gynnwys gofynion sy’n ymwneud â fersiynau papur a fersiynau electronig.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin dynnu cofnod o’r gofrestr honno, neu unrhyw ran o gofnod, yn achos camgymeriad perthnasol, yn ddarostyngedig i hysbysiad blaenorol.

Mae rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2018 Rhif (Cy. )

tiroedd comin, Cymru

Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018

Gwnaed                                17 Hydref 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       19 Hydref 2018

Yn dod i rym                          22 Hydref 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 15A, 15B a 59 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018 a deuant i rym ar 22 Hydref 2018.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw’r awdurdod cofrestru tiroedd comin;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei chadw o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â mapiau a datganiadau a adneuir o dan adran 15A o’r Ddeddf honno;

ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

mae i “hysbysiad adneuo” (“notice of deposit”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(3)(b);

ystyr “perchennog perthnasol” (“relevant owner”) yw’r perchennog sy’n adneuo datganiad;

ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw’r tir y mae’r datganiad o dan sylw yn ymwneud ag ef.

Ffurfiau rhagnodedig y datganiad a’r map

3.(1)(1) Rhaid i ddatganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006—

(a)     bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn achos penodol; a

(b)     cael ei lofnodi—

                            (i)    gan bob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a

                          (ii)    gan ysgrifennydd neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol pob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.

(2) Rhaid i’r map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad yn unol ag adran 15A(3) o Ddeddf 2006 fod yn Fap Ordnans, ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir perthnasol ag ymyl lliwiedig.

Ffioedd

4.(1)(1) Caiff yr awdurdod bennu ffi resymol am adneuo datganiad.

(2) Rhaid i’r perchennog perthnasol dalu unrhyw ffi a bennir yn unol â pharagraff (1) i’r awdurdod.

Amseru adneuo

5. Mae datganiad i’w ystyried fel pe bai wedi ei adneuo o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 ar y diwrnod pan fydd y canlynol wedi dod i law’r awdurdod—

(a)     datganiad sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(1);

(b)     map sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(2); ac

(c)     unrhyw ffi sy’n daladwy yn unol â rheoliad 4.

Rheoli’r datganiad a rhoi cyhoeddusrwydd iddo

6.(1)(1) Pan fo’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu 4(2), rhaid iddo roi hysbysiad i’r perchennog perthnasol i’r perwyl hwnnw.

(2) Rhaid i hysbysiad o’r fath—

(a)     nodi’r gofyniad o dan sylw; a

(b)     nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad.

(3) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael datganiad yn unol â rheoliad 3(1), map yn unol â rheoliad 3(2) ac unrhyw ffi sy’n ofynnol gan reoliad 4, rhaid i’r awdurdod—

(a)     anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi dod i law at y perchennog perthnasol; a

(b)     rhoi hysbysiad bod datganiad wedi ei adneuo (“hysbysiad adneuo”) yn unol â pharagraff (4).

(4) Rhaid i’r awdurdod—

(a)     cyhoeddi hysbysiad adneuo ar ei wefan;

(b)     cyflwyno hysbysiad adneuo i unrhyw berson sydd wedi gofyn yn flaenorol am gael ei hysbysu am bob datganiad sydd wedi ei adneuo gyda’r awdurdod ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post i’r awdurdod at y diben hwnnw;

(c)     arddangos hysbysiad adneuo am 60 o ddiwrnodau o leiaf—

                            (i)    wrth o leiaf un fynedfa amlwg i’r tir perthnasol, neu yn ei hymyl; neu

                          (ii)    mewn unrhyw achos lle na cheir lleoedd o’r fath, mewn o leiaf un lle amlwg ar ffin neu yn ymyl ffin tir o’r fath.

(5) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn lle penodol.

(6) Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (4)(c), heb unrhyw fai na bwriad ar ran yr awdurdod, yn cael ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.

Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gofrestr

7.(1)(1) Rhaid i’r gofrestr gynnwys—

(a)     manylion cyswllt y person yn yr awdurdod y caniateir gwneud ymholiadau iddo ynghylch y gofrestr;

(b)     mynegai i’r gofrestr; ac

(c)     unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.

(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob map a datganiad a adneuir gyda’r awdurdod—

(a)     copi o’r map ac unrhyw allwedd sy’n mynd gyda’r map neu’n ffurfio rhan ohono;

(b)     copi o Ran B o’r datganiad;

(c)     enw a chyfeiriad y perchennog perthnasol, gan gynnwys ei god post;

(d)     y dyddiad y cafodd y datganiad a’r map eu hadneuo gyda’r awdurdod;

(e)     manylion y tir a amlinellir ar y map, gan gynnwys—

                            (i)    cyfeirnod grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans o bwynt o fewn yr ardal a amlinellir;

                          (ii)    enw’r ward etholiadol, y dosbarth neu’r gymuned y mae’r tir ynddo neu ynddi;

                        (iii)    cyfeiriad a chod post yr adeiladau hynny ar y tir y neilltuwyd cod post iddynt; a

                        (iv)    enw’r dref neu’r ddinas sydd agosaf at y pwynt y cyfeirir ato ym mharagraff (i).

Y modd y cedwir y gofrestr

8.(1)(1) Rhaid i’r gofrestr—

(a)     cael ei chadw ar ffurf electronig ac ar bapur;

(b)     cael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—

                            (i)    yn ymwneud â thir o fewn ward etholiadol benodol, dosbarth penodol neu gymuned benodol; a

                          (ii)    yn cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7.

(2) Rhaid i’r awdurdod gadw’r gofrestr mewn modd sy’n addas i alluogi i gopi o unrhyw fanylion sydd wedi eu cynnwys ar y gofrestr gael ei gymryd gan unrhyw berson, neu ar gyfer unrhyw berson, sy’n gofyn am gopi yn bersonol yn y swyddfa berthnasol.

(3) Rhaid i fersiwn bapur y gofrestr gael ei chadw yn y swyddfa berthnasol.

(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “swyddfa berthnasol” (“relevant office”) yw—

(a)     pan fo’r awdurdod wedi pennu swyddfa at ddiben y Rheoliadau hyn ar ei wefan, y swyddfa a bennwyd felly;

(b)     fel arall, prif swyddfa’r awdurdod.

Tynnu cofnodion o’r gofrestr

9.(1)(1) Caiff yr awdurdod dynnu cofnod, neu unrhyw ran o gofnod, o’r gofrestr os yw wedi ei fodloni bod y map neu’r datganiad o dan sylw yn cynnwys camgymeriad perthnasol.

(2) Cyn tynnu cofnod o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o ddim llai na 28 o ddiwrnodau i’r perchennog perthnasol o’i fwriad i wneud hynny.

Dirymu Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018

10. Mae Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018([2]) wedi eu dirymu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

17 Hydref 2018


                                             ATODLEN 1                          Rheoliad 3(1)(a)

Ffurf y Datganiad

 

Ffurf y datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006

Darllenwch y canllawiau a ganlyn cyn llenwi’r ffurflen hon

 

1.         Rhaid llenwi Rhannau A i C ym mhob achos.

 

2.         Rhaid i’r datganiad gael ei lofnodi a’i ddyddio gan bob un o berchnogion y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a chan ysgrifennydd, neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol, pob un o berchnogion y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef pan fo’r perchennog hwnnw yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.

 

3.         Yn achos tir sydd o dan gydberchnogaeth, rhaid i’r holl gydberchnogion lenwi paragraffau 2 a 3 o Ran A a llenwi a llofnodi Rhan C, oni bai bod cynrychiolydd a awdurdodwyd yn briodol yn llenwi ac yn llofnodi’r ffurflen ar ran holl berchnogion y tir. Rhaid i baragraff 2 o Ran A gael ei lenwi yn llawn er mwyn egluro’n glir swyddogaeth y person sy’n cyflwyno’r datganiad ar gyfer ei adneuo (e.e., ymddiriedolwr, asiant rheoli’r perchennog tir, ysgutor etc.).

 

4.         Diffinnir perchennog (‘owner’) yn adran 61(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 a’i ystyr yn fras yw perchennog cyfreithiol y buddiant rhydd-ddaliadol yn y tir.

 

5.         Pan fo’r datganiad yn ymwneud â mwy nag un parsel o dir, dylid cynnwys disgrifiad o bob parsel ym mharagraff 5 o Ran A a dylid llenwi gweddill y ffurflen mewn modd sy’n nodi’n glir pa ddatganiad sy’n ymwneud â pha barsel o dir. Gallai hyn olygu mewnosod geiriau ychwanegol. Rhaid nodi parseli lluosog o dir yn glir drwy gyfrwng ymyl lliwiedig ar unrhyw fap sy’n mynd gyda’r datganiad.

 

6.         Rhaid i fap ordnans, y mae’n rhaid iddo fod ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef ag ymyl lliwiedig, fynd gyda’r datganiad.

 

7.         Rhaid i’r ffi ofynnol fynd gyda datganiad – cysylltwch â’r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin perthnasol i gael manylion pellach.

 

RHAN A: Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r person sy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo a’r tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef

 

 

1.         Enw’r awdurdod neu’r awdurdodau cofrestru tiroedd comin y mae’r datganiad wedi ei gyfeirio ato neu atynt:

 

 

 

2.         Statws y person sy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo (ticiwch y blwch neu’r blychau perthnasol):

 

(a)    Fi yw perchennog y tir a ddisgrifir ym mharagraff 5  

(b)    Rwy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo ar ran [rhowch enw’r perchennog tir] sy’n berchen ar y tir a ddisgrifir ym mharagraff 5 yn fy swyddogaeth fel [rhowch y manylion]  

 

 


3.         Enw, cyfeiriad post llawn (gan gynnwys y cod post), cyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt perchennog neu berchnogion y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef. Os oes mwy nag un perchennog tir, rhaid nodi enwau, cyfeiriadau post llawn (gan gynnwys y codau post), cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn cyswllt yr holl berchnogion tir:

 

 

 

4.         Enw, cyfeiriad post llawn (gan gynnwys y cod post), cyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt unrhyw berson sy’n cyflwyno’r datganiad i’w adneuo ar ran y perchennog neu’r perchnogion:

 

 

 

5.         Disgrifiad o’r tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys y cyfeiriad llawn a’r cod post):

 

 

 

6.         Cyfeirnod neu gyfeirnodau grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans ar gyfer pwynt sydd o fewn arwynebedd y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef (os yw neu os ydynt yn wybyddus):

 

 

 

RHAN B: Datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006

 

 

[Fi yw / [rhowch enw’r perchennog] yw] perchennog y tir a ddisgrifir ym mharagraff 5 o Ran A o’r ffurflen hon ac a ddangosir wedi ei liwio mewn [rhowch y lliw] ar y map sy’n mynd gyda’r datganiad hwn.

 

[Rwyf / Mae [rhowch enw perchennog y tir]] yn dymuno dwyn i ben unrhyw gyfnod lle gallai personau fod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir cyfan neu unrhyw ran o’r tir a ddangosir wedi ei liwio mewn [rhowch y lliw] ar y map sy’n mynd gyda’r datganiad hwn.

 

 (dilëwch y geiriau o fewn cromfachau petryal fel y bo’n briodol a/neu rhowch wybodaeth yn ôl y gofyn)

 

RHAN C: Datganiad o wirionedd

 

 

Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad yr ydych yn gwybod ei fod, neu y gallai fod, yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu drwy hynny wneud budd i chi eich hun neu i berson arall, neu beri colled neu’r perygl o golled i berson arall, gallech fod yn cyflawni’r drosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r gosb uchaf am hynny yw carchar am 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r ddau.

 

 

Rwy’n credu bod y ffeithiau a’r materion a gynhwysir ar y ffurflen hon yn wir

 

 

 

 

Llofnod (y person sy’n gwneud y datganiad o wirionedd):

 

 

Enw llawn (priflythrennau):

 

 

Dyddiad (diwrnod / mis / blwyddyn):

 

Dylech gadw copi o’r ffurflen sydd wedi ei chwblhau

 

RHAN D: Gwybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r datganiad

 

Rhowch unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r datganiad

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                              ATODLEN 2                          Rheoliad 6(5)

Ffurf yr Hysbysiad Adneuo

Hysbysiad am adneuon gan berchnogion tir o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006

 

 

[Rhowch enw’r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin perthnasol]

 

Mae datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) wedi ei adneuo mewn perthynas â’r tir a ddisgrifir isod ac a ddangosir mewn [rhowch y lliw] ar y map sy’n mynd gyda’r datganiad.

 

BYDDWCH CYSTAL Â NODI:

 

Gall adneuon a wneir o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 effeithio ar y gallu i gofrestru tir o’r fath fel maes tref neu bentref o dan adran 15 o’r Ddeddf honno.

 

Disgrifiad o’r tir neu’r tiroedd (gan gynnwys y cyfeiriad llawn a’r cod post):

 

 

 

Cyflwynwyd y datganiad [i’w adneuo gan [rhowch enw’r perchennog] / [ar ran [rhowch enw’r perchennog a nodir]] a daeth i law’r awdurdod hwn ar [rhowch y dyddiad].

 

Mae’r awdurdod yn cynnal cofrestr o fapiau a datganiadau o dan adran 15B o Ddeddf 2006.

 

Gellir gweld y gofrestr ar-lein yn [rhowch gyfeiriad y wefan a’r ddolen] neu gellir edrych arni yn rhad ac am ddim yn y cyfeiriad isod ac ar yr adegau a nodir isod:

 

[Rhowch y cyfeiriad lle gellir gweld y gofrestr]

[Rhowch amserau agor y cyfeiriad lle gellir gweld y gofrestr]

 

 

 

 

Llofnodwyd ar ran [enw’r awdurdod]:

 

Enw a swydd y llofnodwr:

 

Dyddiad:

 

 



([1])           2006 p. 26. Mewnosodwyd adrannau 15A a 15B gan adran 15 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27). Diwygiwyd adran 15A gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Gweler adrannau 15A(9) a 15B(5) am y diffiniad o “prescribed”. Gweler y diffiniadau o “regulations” ac “appropriate national authority” yn adran 61(1). Mae adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi, yn diwygio adran 61(1) fel bod “appropriate national authority” yn golygu Gweinidogion Cymru o ran Cymru.

([2])           O.S. 2018/1021 (Cy. 212).